“Mae”r Siop Bwydydd Cyflawn neu Yr Hen Bopty yn rhan allweddol o fywyd Trefdraeth, yn gwneud cyfraniad pwysig I’r gymuned. Mae’n cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf : mae’r staff yn hyfryd a’r dewis eang o fwydydd gystal os nad yn well, nag unrhywbeth mewn trefi tipyn mwy o faint. Byddai’r dewis I drigolion ac ymwelwyr dipyn tlotach hebddi. Mae’r Cynllun Busnes yn broffesiynol a blaengar ac yn dangos ymrwymiad clir I ddiogelu a datblygu adnodd mor werthfawr i’r dre. Rwy’n falch o allu gwneud cyfraniad I’w diogelu.” Menna, Caerdydd
“Mae’r siop yn adnodd arbennig i drigolion Trefdraeth ac i’r rheini sy’n ymweld ar eu gwyliau. Byddai’r dre tipyn tlotach heb yr em fach hon, lle gellir prynu pob math o gynnyrch lleol, defnyddiau bob dydd a nwyddau mwy anghyffredin. Byddai ei gweld yn cau yn golled fawr i'r gymuned a'r ymwelwyr." Ceri
© Copyright. All rights reserved.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.