Hoffech chi helpu i sicrhau dyfodol Siop Bywdydd Cyflawn Trefdraeth fel siop gymunedol? Dewch yn gyfranddaliwr!
“Siop Bywdydd Cyflawn Trefdraeth wedi bod yn rhan hanfodol o Drefraeth mewn cymaint o ffyrdd ers dros 30 mlynedd. Ond mae ei dyfodol fel siop bwydydd cyflawn bellach mewn perygl, ac rydym yn benderfynol o sicrhau ei bod yn parhau i wasanaethu’r gymuned am genedlaethau i ddod.” Tîm Project Wholefoods
Pam buddsoddi?
Yn ogystal ag ennill llog o hyd at 4%, ac o bosibl gael ad-daliad treth o 30%, bydd eich buddsoddiad yn helpu i ddiogelu dyfodol Siop Bywdydd Cyflawn Trefdraeth fel menter flaenllaw ar gyfer bwyd iach, lleol, wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy ac o ffynonellau moesegol.
Beth yw'r targed? Beth yw'r isafswm buddsoddiad?
Mae angen codi isafswm o £325,000 er mwyn prynu'r siop. Fodd bynnag, i wireddu ein cynlluniau cyffrous yn llawn, mae angen inni godi mwy.
Gallwch ddod yn gyfranddaliwr drwy fuddsoddi o leiaf £100, a byddwch yn gallu dweud eich dweud ar sut y caiff y siop ei rhedeg ar sail un aelod, un bleidlais. Ond rydym yn gobeithio denu dros 400 o fuddsoddwyr gyda buddsoddiad cyfartalog o dros £1,000. Byddwn hefyd yn gwneud cais am arian grant.
Dysgwch fwy am ein cynlluniau - gweler fideo a'r dec sleidiau o'r lansiad (yn Saesneg).
SUT I FUDDSODDI
HOFFECH CHI WNEUD RHODD?
Bydd rhoddion i gefnogi’r prosiect hefyd yn cael eu derbyn yn ddiolchgar iawn. Defnyddiwch y ffurflen hon i gyfrannu.
UNRHYW GWESTIYNAU?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am fuddsoddi yng Nghymdeithas Budd Cymunedol Project Wholefoods Ltd, neu wneud cyfraniad, e-bostiwch invest@projectwholefoods.cymru.
© Copyright. All rights reserved.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.